Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.46 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Cofnodion Pwyllgor Busnes |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu Difrifol
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Troseddu Difrifol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014.
4.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015.
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gorchymyn Adran 109
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, gyda gwelliant drafft y Llywodraeth i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi'i atodi.
4.4 Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014/2015
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl Filiau, a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, sef biliau a gyflwynwyd yn Senedd y DU a biliau a gyhoeddwyd ar ffurf drafft, ar gyfer y pedwerydd sesiwn seneddol.
4.5 Bil Cymwysterau Cymru
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Addysg Uwch (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 13 Mawrth 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 15 Mai 2015.
4.6 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 10 Ebrill 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 5 Mehefin 2015.
5 Pwyllgorau
5.1 Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad i ystyried amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol.
Nododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'n cyflwyno amserlen tair wythnos newydd o fusnes y llywodraeth i gynnwys cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai angen iddynt ystyried aelodaeth ac amserlen y Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol pe bai'r Pwyllgor yn cael ei sefydlu.
5.2 Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad yn 2015-16
Nododd Elin Jones yr hoffai i'r Pwyllgor ystyried cwtogi toriad y Nadolig o bedair wythnos i dair wythnos yn 2015. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o'r farn y dylid parhau gyda'r hen arfer a chael toriad o bedair wythnos o hyd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiadau toriad y Sulgwyn a thoriad yr haf ar gyfer 2015 a chytunwyd ar doriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig ar gyfer 2015/16 (gweler isod).
|
Dyddiadau |
Hanner Tymor y Sulgwyn (1 wythnos)
|
Dydd Llun 25 Mai 2015 – dydd Sul 31 Mai 2015 |
Toriad yr Haf (8 wythnos)
|
Dydd Llun 20 Gorffennaf 2015 – dydd Sul 13 Medi 2015 |
*Hanner Tymor yr Hydref (1 wythnos)
|
Dydd Llun 26 Hydref 2015 – dydd Sul 1 Tachwedd 2015 |
*Toriad y Nadolig (4 wythnos)
|
Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - Dydd Sul 10 Ionawr 2016 |
*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Unrhyw fater arall
Rhoddodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor Busnes am ddau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol arall sy'n debygol o gael eu gosod yr wythnos hon, un ar y Bil Dadreoleiddio mewn perthynas â darpariaethau pysgota anarferedig, ac un arall ar y Bil Arloesedd Meddygol.